OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 178 (Cy. 26) (C. 5)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Arbed) 2014
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Dyma’r pedwerydd gorchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”). Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 20 Chwefror 2014 ddarpariaethau canlynol Deddf 2013:
(a) Pennod 1 o Ran 2 (ymyrryd ym materion rhedeg ysgolion a gynhelir);
(b) Pennod 2 o Ran 2 (ymyrryd mewn awdurdodau lleol);
(c) adran 96 (diddymu’r ddarpariaeth am god ymarfer ar gyfer y berthynas rhwng awdurdodau lleol ac ysgolion);
(d) adran 99 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r diwygiadau a wneir gan Ran 1 o Atodlen 5;
(e) Atodlen 1 (cyrff llywodraethu sydd wedi eu ffurfio o aelodau gweithrediaeth interim);
(f) Rhan 1 o Atodlen 5 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â Rhan 2 o Ddeddf 2013); ac
(g) paragraffau 32 a 34(2) o Ran 3 o Atodlen 5 (diddymu adran 58 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006).
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn darparu bod unrhyw weithred, datganiad neu gyfarwyddyd y mae Gweinidogion Cymru wedi ei wneud o dan eu pwerau yn adrannau 496 i 497A o Ddeddf Addysg 1996 (“Deddf 1996”), neu mewn perthynas â’r pwerau hynny, yn parhau i fod yn gymwys. Mae hefyd yn darparu y caniateir i gyfarwyddyd pellach, mewn perthynas â’r un materion, gael ei wneud o dan adrannau 496 i 497A o Ddeddf 1996.
NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Ddarpariaeth |
Y Dyddiad Cychwyn |
Rhif O.S. |
Adrannau 38, 39, 97 a 98 |
26 Ebrill 2013 i’r graddau y mae’r darpariaethau hynny yn ymwneud â llunio a gosod y Cod Trefniadaeth Ysgolion
|
O.S. 2013/1000 (Cy.105) |
Adrannau 38 a 39
|
1 Hydref 2013 yn llawn |
O.S. 2013/1800 (Cy.182) |
Pennod 2 o Ran 3
|
1 Hydref 2013 |
O.S. 2013/1800 (Cy.182) |
Pennod 3 o Ran 3
|
1 Hydref 2013 |
O.S. 2013/1800 (Cy.182) |
Pennod 4 o Ran 3
|
1 Hydref 2013 |
O.S. 2013/1800 (Cy.182) |
Pennod 5 o Ran 3
|
1 Hydref 2013 |
O.S. 2013/1800 (Cy.182) |
Pennod 6 o Ran 3
|
1 Hydref 2013 |
O.S. 2013/1800 (Cy.182) |
Rhan 4 |
2 Rhagfyr 2013 |
O.S. 2013/3024 (Cy.299)
|
Adrannau 97 a 98
|
4 Mai 2013 yn llawn |
O.S. 2013/1000 (Cy.105) |
Adran 99 |
1 Hydref 2013 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r diwygiadau a wneir gan Ran 2 o Atodlen 5
|
O.S. 2013/1800 (Cy.182) |
Atodlen 2 |
1 Hydref 2013 |
O.S. 2013/1800 (Cy.182)
|
Atodlen 3 |
1 Hydref 2013 |
O.S. 2013/1800 (Cy.182)
|
Paragraffau 1 i 7 a pharagraffau 9 i 39 o Atodlen 4
|
1 Hydref 2013 |
O.S. 2013/1800 (Cy.182)
|
Rhan 2 o Atodlen 5 |
1 Hydref 2013 |
O.S. 2013/1800 (Cy.182)
|
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 178 (Cy. 26) (C. 5)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Arbed) 2014
Gwnaed 29 Ionawr 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 97 a 100 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013([1]) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1.—(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau a
Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau
Arbed) 2014.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
Darpariaethau sy’n dod i rym ar 20 Chwefror 2014
2. Yn ddarostyngedig i erthygl 3, y diwrnod penodedig ar gyfer dod â’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2013 i rym yw 20 Chwefror 2014—
(a) Pennod 1 o Ran 2 (ymyrryd ym materion rhedeg ysgolion a gynhelir);
(b) Pennod 2 o Ran 2 (ymyrryd mewn awdurdodau lleol);
(c) adran 96 (diddymu’r ddarpariaeth am god ymarfer ar gyfer y berthynas rhwng awdurdodau lleol ac ysgolion);
(d) adran 99 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r diwygiadau a wneir gan Ran 1 o Atodlen 5;
(e) Atodlen 1 (cyrff llywodraethu sydd wedi eu ffurfio o aelodau gweithrediaeth interim);
(f) Rhan 1 o Atodlen 5 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â Rhan 2 o Ddeddf 2013); ac
(g) paragraffau 32 a 34(2) o Ran 3 o Atodlen 5 (diddymu adran 58 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006).
Arbedion mewn perthynas ag adrannau 496 i 497A o Ddeddf Addysg 1996
3.—(1)(1) Nid yw dod ag unrhyw un neu ragor o’r
darpariaethau a nodir yn erthygl 2 i rym yn effeithio ar unrhyw
weithred a wneir, unrhyw ddatganiad nac unrhyw gyfarwyddyd o dan
bwerau Gweinidogion Cymru yn adrannau 496 i 497A o Ddeddf Addysg
1996([2]) neu mewn perthynas ag
arfer y pwerau hynny, ac mae’r adrannau hynny yn parhau i fod
yn gymwys fel pe na bai’r darpariaethau a nodir yn erthygl 2
wedi eu gwneud.
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi dyroddi cyfarwyddyd drwy arfer eu pwerau yn adrannau 496 i 497A o Ddeddf Addysg 1996 (“y pwerau cyfarwyddo”) cyn i unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a nodir yn erthygl 2 ddod i rym a’u bod wedi eu bodloni y dylai cyfarwyddyd pellach gael ei ddyroddi mewn perthynas â’r un materion drwy arfer y pwerau cyfarwyddo, mae’r adrannau hynny yn parhau i fod yn gymwys fel pe na bai’r darpariaethau a nodir yn erthygl 2 wedi eu gwneud.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
29 Ionawr 2014